Yn ddathliad unigryw o ddiwylliant, iaith, celf a threftadaeth Cymraeg, mae’r Eisteddfod yn ŵyl flynyddol sy’n denu tua 6000 o gystadleuwyr a dros 170,000 o ymwelwyr. Nid oes amheuaeth mai hi yw’r ŵyl fwyaf poblogaidd o gelf, crefft a chanu a barddoni cystadleuol yn Ewrop.
Am y bedwaredd tro yn ei hanes, cynhelir Eisteddfod 2008 yng nghanol dinas Caerdydd.
Mwynhewch yr holl gystadlaethau gwahanol a gynhelir yn y Pafiliwn, gan gynnwys tair seremoni dan nawdd yr Orsedd - y Coroni, y Fedal Ryddiaith a’r Cadeirio - ac ymfalchîwch yng nghyfeillgarwch a miri y maes a’r tyrfeydd o bob oedran sy’n heidio yno o bob cwr a chornel o’r wlad.
Yn aros ym moethusrwydd gwesty’r Holiday Inn ger Stadiwm y Mileniwm, gadewch i ni eich hebrwng yn ddyddiol i’r maes ac yn ôl.